SL(5)195 – Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

Cefndir a Phwrpas

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (y Ddeddf).

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 i ddarparu bod Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) yn cael ei drin fel “awdurdod llywodraeth ganolog” at ddibenion y Rheoliadau hynny.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ddarparu bod ACC yn cael ei drin fel “awdurdod Cymreig perthnasol” at ddibenion y Ddeddf honno.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymwyso) 2015 i ddarparu bod y cadeirydd ac aelodau anweithredol ACC wedi'u hanghymwyso rhag dod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Rheoliad 5 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion trosedd) o'r Ddeddf.

Y weithdrefn

Negyddol.

Craffu ar faterion technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (“Rheoliadau 2015”), i ddarparu bod ACC i'w drin fel corff llywodraeth ganolog at ddibenion Rheoliadau 2015. Mae Rheoliadau 2015 yn gweithredu'r Gyfarwyddeb Caffael Sector Cyhoeddus (2014/24/UE) sy'n darparu rheolau ar gyfer caffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith uwchlaw trothwyon penodol gan awdurdodau cyhoeddus. Mae Rheoliadau 2015 yn rhan o “ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE” o dan gymal 2 Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), felly bydd Rheoliadau 2015 yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mawrth 2018